Ehedydd
| Ehedydd | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Alaudidae |
| Genws: | Alauda |
| Rhywogaeth: | A. arvensis |
| Enw deuenwol | |
| Alauda arvensis Linnaeus, 1758 | |

Mae'r Ehedydd (Alauda arvensis) yn aelod o deulu'r Alaudidae, yr ehedyddion. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia yn ogystal â mynyddoedd Gogledd Affrica.[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Passeriformes.[2][3]
Dyma enw'r aderyn hwn mewn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill:
- Gwyddeleg: Fuiseog (spéire)
- Llydaweg: Alc'hweder sant Pêr
- Gaeleg: Uiseag
- Manaweg: Ushag happagh
- Cernyweg: Awhesyth
Nid yw'r Ehedydd yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, heblaw bod yr adar sy'n nythu yn y rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yn y dwyrain mae'n mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf.
Mae'r Ehedydd yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, er ei fod hefyd yn canu oddi ar ben polyn neu unrhyw safle addas arall yn ogystal. Pan nad yw'n canu nid yw mor hawdd ei adnabod. Mae'n aderyn brown gyda bol mwy gwelw, 16–18 cm o hyd a gyda plu hirach ar y pen. Gall yr aderyn godi'r plu yma. Wrth iddo hedfan gellir gweld gwyn ar ochr y gynffon ac ar ran gefn yr adenydd.
Mae'n nythu ar dir agored, rhostir neu gaeau. Adeiledir y nyth ar lawr ac mae'n dodwy 3-6 wy. Hadau yw ei brif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.
Mae'r Ehedydd yn aderyn cyffredin trwy Gymru, hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd, ond mae ei nifer wedi gostwng yn yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.
Ecoleg a chadwraeth
[golygu | golygu cod]Mae y rhan fwyaf o’r adar sy’n ddibynol ar gynefinoedd amaethyddol yng Nghymru wedi bod yn prinhau yn gyflym ers degawdau. Er enghraifft, mae y Betrisen lwyd (Perdix perdix) a ystyrir yn ddanghosydd amlwg o gynefinoedd tir ȃr ecolegol iach, eisoes wedi mynd i ddifodiant fel aderyn gwyllt sy’n magu yng Nghymru. Felly hefyd y Durtur (Streptopelia turtur), sydd bellach ond yn aderyn prin ac achlysurol, ac mae Bras yr ŷd (Emberiza calandra) yn fridiwr prin iawn ar y gororau erbyn hyn. Anaml iawn y gwelir Cornchwiglen (Vanellus vanellus) yn magu y tu allan i wlyptiroedd gaiff eu gwarchod, ac mae Golfan y mynydd] (Passer montanus) a’r Bras Melyn (Emberiza citronella) yn prysur ddiflannu o’n tir amaeth.
Yn Sir Benfro mae’r Bras melyn wedi lleihau >99% o gymharu ȃ’i boblogaeth yn 1988, gyda’r ychydig sydd ar ȏl yn dibynnu ar orsafoedd bwydo i fedru goroesi dros y gaeaf, yn aml mewn gerddi. Mae’r Ehedydd (Alauda arvensis) a’r Ydfran (Corvus frugilegus) hefyd yn lleihau. Tybir mai prinder bwyd i’r cywion dros yr haf a phrinder hadau dros y gaeaf sydd i gyfrif am hyn [4]
Cyfeiriadau chwedlonol a llenyddol
[golygu | golygu cod]Yn ôl Trioedd Ynys Prydain roedd Brwydr Arfderydd yn un o 'Dri Ofergad Ynys Prydain'. Mae'r triawd yn dweud mai "o achaws nyth yr ychedydd" (o achos nyth yr ehedydd) yr ymladdwyd y frwydr. Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod hyn yn gyfeiriad at ymrafael yn llys Caerlaverock (tref yn Swydd Dumfries yn yr Alban heddiw), sef "Caer yr Ehedydd" ar lannau Moryd Solway.
Dywedir i gân yr Ehedydd ysbrydoli Dafydd y Garreg Wen i gyfansoddi'r alaw "Codiad yr Ehedydd". Ceir hefyd yr hen bennill "Marwnad yr Ehedydd":
Mi a glywais fod yr hedydd
Wedi marw ar y mynydd;
Pe gwyddwn i mai gwir y geirie,
Awn â gyr o wŷr ac arfe
I gyrchu corff yr hedydd adre.
Awgrymwyd y gallai'r ehedydd yma fod yn gyfeiriad at Owain Glyn Dŵr.[5]
Rhywogaethau
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Ehedydd | Alauda arvensis | |
| Ehedydd Angola | Mirafra angolensis | |
| Ehedydd calandra | Melanocorypha calandra | |
| Ehedydd cefnllwyd | Eremopterix verticalis | |
| Ehedydd deufannog | Melanocorypha bimaculata | |
| Ehedydd du | Melanocorypha yeltoniensis | |
| Ehedydd dwyreiniol | Alauda gulgula | |
| Ehedydd gwargoch | Mirafra africana | |
| Ehedydd Somalia | Mirafra somalica | |
| Ehedydd Ynys Raza | Alauda razae | |
| Llwyn-ehedydd adeingoch Asia | Mirafra assamica | |
| Llwyn-ehedydd dwyreiniol | Mirafra javanica |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bywiadur Llên Natur / Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 3 Mehefin 2016
- ↑ del Hoyo, J.; Elliot, A. & Christie D. (gol.). (2007). Handbook of the Birds of the World. ISBN 978-84-96553-42-2
- ↑ ICZN 1999. International Code of Zoological Nomenclature. 4ydd rhifyn. The International Trust for Zoological Nomenclature, Llundain. 306 tt.
- ↑ Hurford, C (2025) Fferm a Thyddyn, rhif 76 (2025), tud. 6-9
- ↑ "E. Wyn James: Ballad Implosions and Welsh folk stanzas". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-09. Cyrchwyd 2010-03-08.











