Neidio i'r cynnwys

Rami Malek

Oddi ar Wicipedia
Rami Malek
GanwydRami Said Malek Edit this on Wikidata
12 Mai 1981 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Yr Aifft Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Evansville
  • Notre Dame High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llais, actor, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
PartnerLucy Boynton, Emma Corrin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr y Screen Actors Guild am y Perfformiad mwyaf Arbennig gan Ddyn mewn Rol Blaenllaw, Critics' Choice Television Award for Best Actor in a Drama Series, Gwobr Satellite am Actor Gorau - Ffilm Nodwedd Edit this on Wikidata

Mae Rami Malek (ganed 12 Mai 1981) yn actor o'r Unol Daleithiau o dras Eifftaidd. Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae'r brif rôl Elliot Alderson yn y gyfres deledu USA Network Mr. Robot.

Ganwyd Malek yn Los Angeles, Califfornia i rieni Cristion Coptaidd sy'n dod o'r Aifft.[1] Mae ganddo frawd gefell unfath yn ogystal â chwaer hŷn.

Mynychodd Ysgol Uwchradd Notre Dame yn Sherman Oaks, Califfornia ble y graddiodd yn 1999, yr un pryd â'r actores Rachel Bilson.[2] Derbyniodd radd Baglor y Celfyddyd Gain yn 2003 o Brifysgol Evansville yn Evansville, Indiana.[3]

Dechreuodd yrfa actio Malek yn 2004 gyda'i ymddangosiad gwadd yn y gyfres deledu Gilmore Girls. Aeth yn ei flaen i ymddangos mewn nifer o raglenni eraill, megis Over There (2005), Medium (2005), The War at Home (2005-07),[4][5] 24 (2010) a'r mini-gyfres HBO The Pacific (2010).[6][7][8][9][10]

Mae Malek hefyd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys y ffilmiau Night at the Museum (2006, 2009 a 2014) fel King Ahkmenrah, Larry Crowne (2011), The Master (2012), y ffilm annibynnol Ain't Them Bodies Saints (2013), a'r ffilm ddramatig lwyddiannus Short Term 12 (2013).

Ers 2015, y mae wedi serennu yn y ddrama seicolegol USA Network Mr. Robot. Ar gyfer y rôl hon y mae wedi ennill Gwobr Ddewis y Beirniaid[11] ac wedi derbyn enwebiadau ar gyfer Gwobr Glôb Aur,[12] Gwobr Satellite,[13] Gwobr Gymdeithas yr Actorion Sgrin,[14] a Gwobr Dorian.[15]

Enillodd y Wobr Academi am Actor Gorau yn 2019.

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Malek yn Comic-Con San Diego, 2012

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2006Night at the MuseumKing Ahkmenrah
2009Night at the Museum: Battle of the Smithsonian
2011Larry CrowneSteve Dibiasi
2012BattleshipLt. Hill
2012The Twilight Saga: Breaking Dawn – Part 2Benjamin
2012The MasterClark
2013Ain't Them Bodies SaintsWill
2013Short Term 12Nate
2013OldboyBrowning
2014Need for SpeedFinn
2014Night at the Museum: Secret of the TombKing Ahkmenrah
2014Da Sweet Blood of JesusSeneschal Higginbottom
2017Buster's Mal HeartI'w chyhoeddiÔl-gynhyrchu, prif rôl

Teledu

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2004Gilmore GirlsAndyPennod: "In the Clamor and the Clangor"
2005Over ThereHassan2 bennod
2005MediumTimothy KercherPennod: "Time Out of Mind"
2005–2007The War at HomeKenny21 o benodau
201024Marcos Al-ZacarSeren wadd, 3 pennod yng nghyfres 8
2010The PacificMerriell "Snafu" Shelton6 phennod
2012AlcatrazWebb PorterPennod: "Webb Porter"
2012The Legend of KorraTahno (llais)3 pennod
2014BelieveDr. Adam TerryPennod: "Pilot"
2015–2019Mr. RobotElliot AldersonPrif rôl, 10 pennod

Actio llais

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rôl lais Nodiadau
2004Halo 2 Lleisiau ychwanegolHeb gredyd
2014The Legend of KorraTahno
2015Until Dawn[16]Joshua "Josh" Washington

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Willmore, Alison (26 Awst 2015). "The Hacker Heartthrob From Mr. Robot Who Owned Summer TV". BuzzFeed. Cyrchwyd 26 Awst 2015.
  2. ↑ "Notre Dame High School 1999 Activ Alumns". ndhs.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-26. Cyrchwyd 10 Ebrill 2016.
  3. ↑ "Local Stars: Film and TV stars who lived and breathed Evansville at some point in their lives". Evansville Living. Cyrchwyd 25 Mehefin 2015.
  4. ↑ "Interview with Rami Malek of The War at Home". AfterElton.com. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  5. ↑ "Interview with Rami Malek of The War at Home". Starry Constellation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-12. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  6. ↑ "Rami Malek Matures With War Role". The Globe and Mail. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  7. ↑ "The Verge: Rami Malek". Movie Line. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-02. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  8. ↑ "Interview: Rami Malek – The Pacific". Entertainment Focus. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  9. ↑ "The Pacific star Rami Malek has friends in high places". Cineplex.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-02. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  10. ↑ "Q&A With Actor Rami Malek – The Pacific". Criticize This!. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-14. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  11. ↑ Mitovich, Matt Webb (17 Ionawr 2016). "Critics' Choice Awards: TV Winners Include Fargo, Mr. Robot, Master of None, Rachel Bloom and Carrie Coon". TVLine. Cyrchwyd 18 Ionawr 2016.
  12. ↑ Mitovich, Matt Webb (10 Ionawr 2016). "Golden Globes: Mr. Robot and Mozart Win Big; Taraji P. Henson, Lady Gaga, Jon Hamm, Rachel Bloom Grab Gold". TVLine. Cyrchwyd 12 Ionawr 2016.
  13. ↑ Ausiello, Michael (9 Rhagfyr 2015). "SAG Awards: Game of Thrones, Homeland, House of Cards Lead Noms; Empire, Inside Amy Schumer Shut Out; Mr. Robot's Rami Malek Sneaks In". TVLine. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2015.
  14. ↑ "Satellite Awards (2015)". International Press Academy. 1 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2015.
  15. ↑ "'Carol' Earns Multiple Mentions as Dorian Award Nominees Are Unveiled". 12 Ionawr 2016. Cyrchwyd 25 Chwefror 2016.
  16. ↑ Pete Samuels (12 Awst 2014). "Until Dawn unveiled for PS4 at Gamescom 2014". PlayStation.Blog.Europe.