Patreon
| Enghraifft o: | patronage website |
|---|---|
| Iaith | Saesneg |
| Dechrau/Sefydlu | Mai 2013, 2 Gorffennaf 2013 |
| Gweithredwr | Patreon, Inc. |
| Sylfaenydd | Jack Conte, Sam Yam |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Gwefan | https://www.patreon.com/ |
| Dynodwyr | |
| Quora | Patreon |
Mae Patreon yn blatfform ariannu torfol sydd wedi'i leoli yn San Francisco. Defnyddir y platfform yn bennaf gan artistiaid a chrefftwyr, ond hefyd gan bobl hunangyflogedig eraill mewn proffesiynau creadigol. Drwy wahodd pobl i anfon arian trwy Patreon, gall crewyr dderbyn cefnogaeth ariannol i gynhyrchu celf neu gynnwys arall. Gellir rhoi'r gefnogaeth ariannol yn rheolaidd, fel cynllun tanysgrifio, neu bob tro y bydd y crëwr dan sylw yn postio cynnwys newydd ar sianel ddigidol.[1] Sefydlwyd y cwmni Patreon gan y cerddor Jack Conte a'r datblygwr Sam Yam yn 2013.[2] Mae Patreon wedi cael sylw yng nghylchgronau Forbes, Billboard, a Time.
Daw enw'r cwmni o'r term "patreon" sef 'noddwr', sef rhywun neu sefydliad sy'n noddi'r celfyddydau neu fenter.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Patreon ym mis Mai 2013 gan yr artist Jack Conte, a oedd eisiau gwneud digon o arian i fyw oddi ar ei fideos YouTube poblogaidd.[4] Ynghyd â Sam Yam, datblygodd blatfform sy'n caniatáu i ddefnyddwyr roi swm bob tro y bydd artist yn creu gwaith celf. Cododd y cwmni $2.1 miliwn ym mis Awst 2013 gan grŵp o gyfalafwyr menter a buddsoddwyr angel.[5][6] Erbyn mis Ionawr 2016, roeddent wedi codi $47.1 miliwn mewn cyllid.[7]
Caffaelodd y cwmni fwy na 125,000 o "noddwyr" yn ei 18 mis cyntaf.[8] Ddiwedd 2014, cyhoeddodd Patreon fod defnyddwyr y wefan yn anfon mwy na $1 miliwn y mis at grewyr y wefan.[9]
Ym mis Mawrth 2015, prynodd Patreon wefan ariannu torfol debyg, Subbable, a ddechreuwyd gan y brodyr John a Hank Green, a throsglwyddodd y crewyr o'r wefan honno i Patreon.
Ym mis Hydref 2015, dioddefodd y wefan ymosodiad hacio mawr lle cafodd bron i bymtheg gigabeit o ddata eu dwyn a'u cyhoeddi. Cyhoeddwyd mwy na 2.3 miliwn o gyfeiriadau e-bost unigryw a miliynau o negeseuon preifat.[10][11]
Model
[golygu | golygu cod]Mae crewyr cynnwys yn sefydlu tudalen ar wefan Patreon, lle gall defnyddwyr addo rhoi swm penodol o arian i artist bob tro y maent yn creu gwaith celf, neu osod uchafswm misol. Fel arall, gellir rhoi swm misol sefydlog. Mae hyn yn wahanol i lwyfannau ariannu torfol eraill fel Kickstarter, lle mae crewyr ond yn derbyn un swm ar ôl ymgyrch lwyddiannus, a lle mae'n rhaid i chi fel arfer ddechrau o'r newydd ar gyfer pob prosiect newydd.[4] Fel llawer o lwyfannau tebyg eraill, bydd defnyddwyr yn derbyn mwy a mwy o fuddion po fwyaf y maent yn rhoi i brosiect.[12][13] Mae Patreon yn cymryd comisiwn o 5% ar y swm a roddir.[14]
Crewyr cynnwys
[golygu | golygu cod]Ym mis Chwefror 2014, roedd bron i hanner y crewyr cynnwys yn gynhyrchwyr fideo YouTube, tra bod y gweddill yn awduron, cartwnwyr, neu bodledwyr.[15] Ar gyfartaledd, rhoddodd defnyddwyr $7 fesul cynhyrchiad. Cerddorion oedd cynulleidfa darged wreiddiol y wefan. Un enghraifft oedd y cerddor Amanda Palmer. Defnyddiodd Patreon ac felly nid oedd yn ddibynnol ar gael contract gyda label recordio. Mae artistiaid llyfrau comig sefydledig fel Jonathan Rosenberg, Zach Weinersmith, a Paul Taylor hefyd wedi defnyddio Patreon gyda llwyddiant mawr.[16] Ym mis Rhagfyr 2014, gwaharddwyd ariannu cynnwys y gellid ei ystyried yn ddeunydd ffotograffig pornograffig ar y platfform. Caniateir delweddau rhywiol nad ydynt yn ffotograffig (wedi'u llunio, eu crwnio, neu eu cynhyrchu gan gyfrifiadur, er enghraifft).
Cymru a Patreon
[golygu | golygu cod]Mae sawl unigolion a sefydliad yn defnyddio platfform Patreon er mwyn ariannu eu mentrau. Yn eu mysg mae gwefan dylanwadwr dan yr enw Merch Cymru sy'n postio clipiau ar y cyfryngau cymdeithasol am Gymru, annibyniaeth i Gymru, y Gymraeg, a themâu hunaniaeth rhywiol.[17] Defnyddiwr Patreon gan bodlediad chwaraeon Gymreig boblogaidd, y The Socially Distance Sports Bar.[18] Mae Menter Iaith Casnewydd hefyd wedi cynnal tudalen Patreon i ofyn i gefnogwyr wneud cyfraniad ariannol i'r Fenter tuag at cefnogi’n gwaith i gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd.[19]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The California Report.org: «Creating Patrons of the Arts Through Crowdfunding» July 11–13, 2014.
- ↑ Patreon.org: Intro Accessed 14.7.1014
- ↑ "Noddwr". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 17 Awst 2026.
- 1 2 Levitz, Dena (9 Medi 2013). "Donation, Patron Services Help Fans Support Their Favorite Authors". PBS. Cyrchwyd 1 Mawrth 2014.
- ↑ Tate, Ryan (22 Hydref 2013). "The Next Big Thing You Missed: 'Eternal Kickstarter' Reinvents Indie Art". Wired. Cyrchwyd 1 Mawrth 2014.
- ↑ Luckerson, Victor (4 Rhagfyr 2013). "Top 10 Exciting Startups". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-01. Cyrchwyd 1 Mawrth 2014.
- ↑ Buhr, Sarah (19 Ionawr 2016). "Patreon Gains $30 Million Series B Funding To Support Growth". TechCrunch. Cyrchwyd 26 Mehefin 2016.
- ↑ Dredge, Stuart (2015-03-04). "Amanda Palmer races to $13,000 per release in Patreon crowdfunding". The Guardian. Cyrchwyd 2015-06-11.
- ↑ "Creators on Patreon Receive Over 1,000,000 per Month From Patrons". Patreon. 10 Hydref 2014. Cyrchwyd 12 Mehefin 2015.
- ↑ Hunt, Troy. "Pwned websites - Patreon". Cyrchwyd 7 Hydref 2015.
- ↑ Goodin, Dan (2 Hydref 2015). "Gigabytes of user data from hack of Patreon donations site dumped online". Cyrchwyd 7 Hydref 2015.
- ↑ Pham, Alex (10 Mai 2013). "Jack Conte's Patreon: Anyone Can Be a Patron of the Arts". Los Angeles: Billboard Biz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-23. Cyrchwyd 1 Mawrth 2014.
- ↑ Henriksen, Erik (7 Chwefror 2014). "Portland Cartoonist Erika Moen Launches a Patreon (Also, Patreon Sounds Pretty Brilliant)". The Portland Mercury. Portland, OR. Cyrchwyd 1 Mawrth 2014.
- ↑ "Patreon Help Center". Patreon. Cyrchwyd 19 Awst 2015.
- ↑ "Patreon" (yn Norwyeg Bokmål). Patreon. Cyrchwyd 2021-11-11.
- ↑ Allen, Todd (24 Chwefror 2014). "Patreon Raises $2.1 Million". Publishers Weekly. Cyrchwyd 1 Mawrth 2014.
- ↑ "Merch Cymru". Patreon. Cyrchwyd 17 Awst 2026.
- ↑ "Patreon". Gwefan Socially Distance Sportsbar. Cyrchwyd 17 Awst 2026.
- ↑ "Cefnogwch Ni". Gwefan Menter Iaith Casnewydd. Cyrchwyd 17 Awst 2026.