Krasnoyarsk
| Math | tref neu ddinas, dinas fawr, city/town in Russia |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,092,851 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Edkham Akbulatov |
| Gefeilldref/i | Cremona, Omsk, Changchun, Daqing, Harbin, Heihe, Irkutsk, Istaravshan, Kaliningrad, Kazan’, Kyzyl, Mirninsky District, Магілёў, Moscfa, Norilsk, Novosibirsk, Oneonta, Qiqihar, Samarcand, St Petersburg, Sajanshk, Tomsk, Cheboksary, Ulan Bator, Žilina, Sault Ste. Marie |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Rwsia |
| Arwynebedd | 348 ±1 km² |
| Uwch y môr | 162 metr |
| Gerllaw | Afon Yenisei |
| Yn ffinio gyda | Yemelyanovsky District, Beryozovsky District, Krasnoyarsk Krai |
| Cyfesurynnau | 56.0089°N 92.8719°E |
| Cod post | 660000–660136 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Edkham Akbulatov |
![]() | |


Dinas yn Siberia, Rwsia, yw Krasnoyarsk (Rwseg: Красноярск), sy'n ganolfan weinyddol Crai Krasnoyarsk, Dosbarth Ffederal Siberia, ac a leolir ar lan Afon Yenisei. Krasnoyarsk yw'r dryded ddinas fwyaf yn Siberia ar ôl Novosibirsk ac Omsk, gyda phoblogaeth o 973,826 (Cyfrifiad 2010).
Mae Krasnoyarsk yn gyffordd bwysig ar y Rheilffordd Traws-Siberia ac yn un 'r cynhyrchwyr aliwminiwm mwyaf yn Rwsia. Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei golygfeydd naturiol; ym marn y dramodydd Anton Chekhov, Krasnoyarsk oedd "y ddinas harddaf yn Siberia."[1]
Meteoryn
[golygu | golygu cod]Yn dilyn ei darganfyddiad yn yr ardal, mae hefyd meteoryn o'r enw Krasnoyarsk yn adnabyddus, nid yn unig am ei faint, ond hefyd am fod y meteoryn palasit cyntaf erioed i'w ganfod, nôl ym 1749. Mae darn o'r meteoryn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anton Chekhov, "The Crooked Mirror" and Other Stories, Zebra Book, 1995, tud. 200.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol y ddinas

