Neidio i'r cynnwys

E-bost

Oddi ar Wicipedia
E-bost
Enghraifft o:gwasanaeth ar y rhyngrwyd, technoleg cyfathrebu Edit this on Wikidata
Mathgwasanaeth ar y rhyngrwyd, llythyr, cyfryngau digidol, cylchrediad negeseuon, cymhwysiad telathrebu Edit this on Wikidata
CrëwrRay Tomlinson Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1971 Edit this on Wikidata
Rhan oY rhyngrwyd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPost Office Protocol 3, Internet Message Access Protocol, Simple Mail Transfer Protocol, Multipurpose Internet Mail Extensions Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02nf_ edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF2377 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffordd o ysgrifennu ac anfon negeseuon yn electronaidd yw e-bost.

Mae e-bost wedi newid y ffordd mae pobl yn cyfarthrebu; dros gyfnod o ugain mlynedd mae'r nifer o bobl sy'n cyfathrebu trwy lythyron wedi lleihau ac mae mwy-a-mwy o bobl yn defnyddio e-bost i gyfarthrebu erbyn hyn.

Rhyngwyneb Thunderbird i drin a thrafod e-byst

Mae wedi'i seilio ar y Simple Mail Transfer Protocol sy'n galluogi'r cyfrifiaduron i gyfathrebu a'i gilydd dros rwydwaith neu system rhwydweithiol. Ceir system mewnol y 'mewnrwyd' neu'r intranet gan gwmnïau, hefyd i yrru negeseuon e-bost o'r naill gyfrifiadur i'r llall, weithiau wedi'u creu / addasu gan y cwmni.

Y niwsans mwyaf ynghylch yr e-bost ydy ydy'r cam-ddefnydd a wneir gan rhai pobol drwy yrru e-byst nad oes mo'u gofyn na'u hangen. Sbam ydy'r gair am y rhain. Ar adegau fe ddefnyddir spam i dargedu cwmnïau neu gyrff eraill er mwyn creu hafoc, neu er mwyn ceisio dymchwel eu system gyfrifiadurol. Gall spam hefyd gynnwys 'attachemnts' megis firws er mwyn creu mwy o niwsans. I rwystro hyn, ceir meddalwedd gwrth-firws a ffiltrau e-bost i atal neu roi'r spam mewn quarantine.

Ei darddiad

[golygu | golygu cod]

Fe grewyd yr e-bost ychydig cyn y rhyngrwyd ac yn offeryn hanfodol i greu'r rhyngrwyd. Dangosodd y MITei Compatible Time-Sharing System (CTSS) yn 1961.[1]

Roedd hyn yn galluogi nifer o ddefnyddwyr ar yr un pryd i fewngofnodi ar yr un pryd i system wedi'i osod ar gyfrifiaduron IBM7094[2] o gyfrifiaduron annibynnol a chadw (safio) ffeiliau ar ddisg.

Dechreuodd yr e-bost yn 1965 fel dull i ddefnyddwyr ranu cyfrifiadur mainframe ond mae hi'n amhosibl roi dyddiad ar y defnydd cyntaf ohono. Enwau rhai o'r cwmnïau a greodd systemau cynharaf o e-byst oedd: y Q32 gan System Development Corporation a CTSS gan gwmni MIT. Yn y 1970au cynnar, datblygodd Ray Tomlinson feddalwedd e-bost ar rwydwaith yr ARPAnet, rhag-flaenydd y Rhyngrwyd, tra'n gweithio gyda cwmni technoleg rhwydweithio Bolt, Beranek and Newman. Er mwyn gwahanu enw'r defnyddiwr ac enw'r cyfrifiadur, defnyddiodd y symbol @, sy'n parhau o hyd ar system ebost y Rhyngrwyd.

Fformat

[golygu | golygu cod]

Diffinnir fformat e-byst yn yr RFC 2822 ac mewn cyfres o RFCs, RFC 2045 hyd at RFC 2049; sef casgliad a elwir yn Multipurpose Internet Mail Extensions (MIME).

Ers 2005 mae'r safon RFC 2822 yn safon IETF a'r MIME RFC yn safonau drafft o'r enw IETF [3]. Y dogfennau hyn yw dogfennau safoni de facto e-bost y rhyngrwyd.

Mae gan pob e-bost ddwy ran:

  • Y Pen - gyda rhanau megis: summary, sender, receiver, a gwybodaeth arall ynghylch yr e-bost ei hun
  • Y Corff - sef y neges ar ffurf testun a all hefyd gynnwys llofnod ar ei ddiwedd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "CTSS, Compatible Time-Sharing System", gwefan University of South Alabama School of Computing, 4 Medi 2006; adalwyd 4 Medi 2026
  2. ↑ Tom Van Vleck, "The IBM 7094 and CTSS", Multicians.org, 10 Medi 2004; adalwyd 4 Medi 2026
  3. ↑ "RFC Index". http://www.ietf.org/iesg/1rfc_index.txt.