Neidio i'r cynnwys

Cyfalafiaeth

Oddi ar Wicipedia
Cyfalafiaeth
Delwedd:Microcosm of London Plate 033 - Corn Exchange.jpg, Anti-capitalism color.jpg
Enghraifft o:trefniant cymdeithasol, mudiad cymdeithasol Edit this on Wikidata
Matheconomic system Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebanti-capitalism, comiwnyddiaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmeans of production Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01nc0 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF14523 edit this on wikidata
QuoraCapitalism edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

System ecomonaidd sy'n seiliedig ar unigolion, cwmnïau neu gorfforaethau yn berchen ar eiddo neu gyfalaf (arian neu stoc wrth gefn) yw cyfalafiaeth. Mae perchnogaeth breifat weithiau'n cael ei ddefnyddio i olygu perchnogaeth unigol, er y gellir defnyddio'r term "preifat" i gyfeirio at berchnogaeth ar y cyd ar ffurf perchnogaeth gorfforaethol hefyd. Felly, yn y cyd-destun yma, fe olygai "bod o dan berchnogaeth breifat" rywbeth nad yw o dan berchnogaeth na reolaeth y wladwriaeth ac sy'n cael ei redeg er mwyn gwneud elw.

Y gwrthwyneb i gyfalafiaeth yw Comiwnyddiaeth, sy'n seiliedig ar feirniadaeth gymdeithasol ac economaidd Karl Marx ar gyfalafiaeth yn ei lyfr Das Kapital.

Egwyddorion

[golygu | golygu cod]

Seilir cyfalafiaeth ar berchnogaeth breifat, yr ysgogiad elw, y farchnad rydd, cystadleuaeth economaidd, a dewis, yn ogystal ag ymyrraeth gyfyngedig gan y llywodraeth. Ystyr egwyddor perchnogaeth breifat yw y dylai'r rhan fwyaf o sefydliadau sy'n gweithredu yn y sectorau cynradd, gweithgynhyrchu a gwasanaethau fod yn eiddo preifat i unigolion sy'n buddsoddi eu cyfalaf. Mae cyfalaf yn arian sydd wedi'i gynilo neu ei fenthyg, a gall fod yn eiddo i unigolion neu sefydliadau. Gall rhai gwasanaethau gael eu darparu gan y llywodraeth, megis y lluoedd arfog, y gwasanaeth post neu gyhoeddi arian cyfred, ond dylai'r rhan fwyaf o wasanaethau gael eu darparu gan y sector preifat.

Yn gysylltiedig â pherchnogaeth breifat mae cymhelliad elw. Mae unigolion yn fodlon buddsoddi eu cyfalaf mewn mentrau busnes oherwydd eu bod yn bwriadu gwneud elw ar eu buddsoddiadau. Po fwyaf yw'r elw y maent yn credu y byddant yn ei wneud, y mwyaf fydd eu parodrwydd i fuddsoddi. Wrth gwrs, gallant hefyd wneud colledion os byddant yn buddsoddi yn y busnes anghywir, a gall hyn orfodi'r unigolion hynny i adael y farchnad.

Y farchnad yw canolbwynt y system economaidd gyfalafol. Mae gweithrediad y farchnad yn pennu cyflenwad, galw a phris nwyddau. Mae pris nwydd yn cael ei bennu gan y galw – faint o bobl sydd am ei brynu – a'r cyflenwad – faint sydd ar gael. Caiff entrepreneuriaid preifat eu hannog i sefydlu busnesau os yw'r galw yn uchel a'r prisiau yn uchel. Ar y llaw arall, os oes gormod o gyflenwad a'r prisiau'n isel, caiff pobl eu gorfodi i adael y farchnad.

Pan fo sawl cyflenwr yn y farchnad, ceir cystadleuaeth ac mae gan y cwsmer ddewis. Mae cystadleuaeth yn arwain at gynhyrchu mwy effeithlon ac at ddatblygu cynhyrchion y mae defnyddwyr yn eu dymuno. O ganlyniad, caiff anghenion defnyddwyr eu diwallu yn y ffyrdd mwyaf effeithlon posibl, ac mae eu safonau byw yn gwella.

Yn olaf, dylai'r llywodraeth gadw allan o'r farchnad gymaint â phosibl. Mae'n angenrheidiol cyflwyno rheoliadau am resymau diogelwch ac i amddiffyn y rhai sy'n cymryd rhan yn y farchnad rhag pobl anonest a allai gynhyrchu nwyddau nad ydynt yn addas at y diben a fwriadwyd neu a allai dwyllo pobl ddiniwed o'u cyfalaf. Serch hynny, cyn belled ag y bo modd, dylai'r llywodraeth ymyrryd cyn lleied â phosibl a gadael i'r farchnad greu ei hamodau economaidd ei hun.

Problemau

[golygu | golygu cod]

Mewn theori, cyfalafiaeth yw'r ffordd fwyaf effeithlon o weithredu'r economi. Fodd bynnag, yn ymarferol mae'n rhaid i gyfalafiaeth gael llawer iawn o reoleiddio er mwyn ei rheoli. Dros y blynyddoedd, mae llywodraethau mewn gwledydd cyfalafol wedi gorfod pasio deddfau i amddiffyn defnyddwyr, buddsoddwyr, cyflogwyr a gweithwyr.

Mae'r farchnad yn aml yn cael ei dominyddu ac felly ei rheoli gan sefydliadau mawr sy'n gallu ei thrin er eu budd eu hunain. Ar ddechrau'r 20g, bu'n rhaid i lywodraeth Unol Daleithiau America weithredu er mwyn chwalu sefydliadau pwerus yn y diwydiannau dur, olew a'r rheilffyrdd. Ar ddiwedd yr 20g, bu'n rhaid iddi weithredu i atal pŵer gormodol corfforaeth Microsoft, a bu'n rhaid iddi gymryd camau yn erbyn rheolwyr cwmni Enron a oedd wedi twyllo miloedd o bobl.

Er mai mewn theori y bydd "llaw anweledig" y farchnad yn canfod ei lefel ei hun os caiff ei gadael i weithredu ar ei phen ei hun, yn ymarferol mae'n rhaid i bobl a llywodraethau barhau i fod yn wyliadwrus o'i diffygion a bod yn ymwybodol y gall gael ei thrin er budd y rhai sydd â phŵer.

Llenyddiaeth Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Ceir nifer o hen benillion sy'n gweld cyfalafiaeth yn rhywbeth gwrthyn:

Esmwyth tlodi gan y doethion,
Blin yw cyfoeth i'r ynfydion.
Mwy o boen sy ar rai yn gwario
Nag ar eraill yn llafurio.
Bu gennyf ffrind a cheiniog hefyd,
Ac i'm ffrind mi rois ei benthyg.
Pan eis i nôl fy ngheiniog adre,
Collais i fy ffrind a hithe.