Asturias
| Arwyddair | Hoc signo tuetur pius. Hoc signo vincitur inimicus. |
|---|---|
| Math | cymunedau ymreolaethol Sbaen |
| Enwyd ar ôl | Tywysogaeth Asturias |
| Prifddinas | Oviedo |
| Poblogaeth | 1,008,028 |
| Anthem | Asturias, patria querida |
| Pennaeth llywodraeth | Adrián Barbón |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Green Spain |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 10,603.57 km² |
| Gerllaw | Môr Cantabria |
| Yn ffinio gyda | Galisia, Castilla y León, Cantabria |
| Cyfesurynnau | 43.3614°N 5.8478°W |
| ES-AS | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Government of the Principality of Asturias |
| Corff deddfwriaethol | Junta General del Principado de Asturias |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Principality of Asturias |
| Pennaeth y Llywodraeth | Adrián Barbón |
![]() | |
Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Tywysogaeth Asturias (Astwrieg Principáu d'Asturies neu Asturies, Sbaeneg Principado de Asturias). Daw'r enw o dylwyth yr Astures, brodorion yr ardal yn ystod Oes yr Haearn, enw a fabwysiadwyd gan y Rhufeiniaid ar gyfer holl drigolion gogledd-orllewin y penrhyn Iberaidd.

O dan y drefn Sbaenaidd, mae Asturias hefyd yn dalaith gyda'i ffiniau'n cydredeg â ffiniau'r gymuned. I'r gogledd mae Bae Vizcaya, i'r de León, i'r dwyrain Cantábria ac i'r gorllewin, Galicia. Mae iddi arwynebedd o ychydig dros 10,600 km² - a'i hyd oddeutu 330 km o'r dwyrain i'r gorllewin, a dim ond 130 km o'r de i'r gogledd. Mae'n ardal fynyddig ac arfordirol; carreg galch yw creigiau'r dwyrain a'r canolbarth, gyda llechi yn y gorllewin.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae mynyddoedd y de'n ffinio ag ucheldir canol Sbaen, mae sawl cadwyn o'r Cordillera Cantábrica, y mynyddoedd sy'n croesi gogledd Sbaen o'r dwyrain i'r gorllewin. Yr uchaf oll yw'r Picos de Europa, yn nwyrain Asturias, lle mae dros 200 o gopaon dros 2000m. Amgylchedd karst sydd yno: afonydd tanddaearol, pyllau dwfn iawn, creigiau gydag ôl y dŵr yn stribedi arnyn nhw.
Oherwydd y tirlun a'r hinsawdd Iwerydd mae llawer o afonydd, y mwyafrif yn fyr. Y mwyaf yw'r Nalon (129 km), prif afon cymoedd y glo. Ceir tair afon sy'n nodedig am eog a sewin: y Sella, yr Eo ar y ffin â Galicia, a'r Deva ar y ffin â Cantábria.
Carst (lle mae'r dirwedd wedi'i ffurfio o ganlyniad i ddŵr yn ymdoddi ar greigwely carbonad) yw ei harfordir dwyreiniol, ac mae'r clogwyni'n bigog. Yn y gorllewin ceir mwy o dywod a cherrig meddal. Mae'r traethau ar y cyfan yn fach, ar wahân i rai lle mae afon a gwaith pobl wedi ffurfio bae eang, e.e. Xixón, Ribeseya.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]| Safle | Rhanbarth (Comarca) | Pobl. | Safle | Rhanbarth (Comarca) | Pop. | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Xixón Uviéu |
1 | Xixón | Xixón | 272,365 | 11 | Llanera | Uviéu | 13,794 | Avilés Siero |
| 2 | Uviéu | Uviéu | 220,301 | 12 | Llanes | Oriente | 13,759 | ||
| 3 | Avilés | Avilés | 79,514 | 13 | Llaviana | Nalón | 13,236 | ||
| 4 | Siero | Uviéu | 51,776 | 14 | Cangas del Narcea | ||||
