Neidio i'r cynnwys

Amrywiant

Oddi ar Wicipedia
Enghraifft o ddwy boblogaeth gyda'r un cymedr ond amrywiannau gwahanol. Mae gan y boblogaeth goch gymedr 100 ac amrywiant 100 (gwiriad safonol 10) tra bod gan y boblogaeth las gymedr 100 ac amrywiant 2500 (gwiriad safonol 50).

Mewn damcaniaeth tebygolrwydd ac ystadegaeth, amrywiant yw disgwyliad gwyriad sgwâr hapnewidyn o'i gymedr. Yn anffurfiol, mae'n mesur i ba raddau y mae set o rifau wedi'u gwasgaru o'u gwerth cymedrig. Mae gan amrywiant rôl bwysig mewn ystadegaeth, lle'i ddefnyddir ar gyfer ystadegaeth ddisgrifiadol, profi rhagdybiaeth, modelu, a samplu Monte Carlo. Mae amrywiant yn bwysig yn y gwyddorau, lle mae dadansoddiad ystadegol o ddata yn gyffredin. Yr amrywiant yw sgwâr y gwyriad safonol. Amrywiant hefyd yw ail foment ganolog dosraniad, a chydamrywiad yr hapnewidyn ag ef ei hun. Cynrychiolir amrywiant yn aml gan σ2, s2, ac Var⁡(X).[1]

Diffiniad damcaniaeth tebygolrwydd

[golygu | golygu cod]

Amrywiant hapnewidyn X yw gwerth disgwyliedig (cymedr) y gwyriad sgwâr (pellter sgwâr) o gymedr X, μ=E⁡[X]:

Var⁡(X)=E⁡[(X−μ)2].

Gellir meddwl am yr amrywiant hefyd fel cydamrywiant hapnewidyn ag ef ei hun:

Var⁡(X)=Cov⁡(X,X).

Gellir ehangu'r mynegiad ar gyfer yr amrywiant fel a ganlyn:

Var⁡(X)=E⁡[(X−E⁡[X])2]=E⁡[X2−2XE⁡[X]+E⁡[X]2]=E⁡[X2]−2E⁡[X]E⁡[X]+E⁡[X]2=E⁡[X2]−E⁡[X]2

Mewn geiriau eraill, mae amrywiant X yn hafal i gymedr sgwâr X minws sgwâr cymedr X.

Hapnewidyn arwahanol

[golygu | golygu cod]

Os yw generadur hapnewidyn X yn arwahanol gyda ffwythiant màs tebygolrwydd x1↦p1,x2↦p2,…,xn↦pn, yna

Var⁡(X)=∑i=1npi⋅(xi−μ)2,

lle μ yw'r gwerth disgwyliedig (cymedr). Hynny yw,

μ=∑i=1npixi.

Hapnewidyn parhaus

[golygu | golygu cod]

Os oes gan hapnewidyn X ffwythiant dwysedd tebygolrwydd f(x), gofod cyflwr (parth) Ω, a ffwythiant dosraniad cronnus cyfatebol F(x), yna

Var⁡(X)=σ2=∫Ω(x−μ)2f(x)dx=∫Ωx2f(x)dx−2μ∫ℝxf(x)dx+μ2∫ℝf(x)dx=∫Ωx2f(x)dx−2μ⋅μ+μ2⋅1=∫Ωx2f(x)dx−μ2,

lleμ yw gwerth disgwyliedig (cymedr) X a roddir gan

μ=∫Ωxf(x)dx

Enghreifftiau

[golygu | golygu cod]

Dis teg

[golygu | golygu cod]

Gellir modelu dis teg chwe ochr fel hapnewidyn arwahanol, X, gyda chanlyniadau 1 i 6, pob un â thebygolrwydd cyfartal 1/6. Gwerth disgwyliedig X yw (1+2+3+4+5+6)/6=7/2. Felly, amrywiant X yw

Var⁡(X)=∑i=1616(i−72)2=16((−5/2)2+(−3/2)2+(−1/2)2+(1/2)2+(3/2)2+(5/2)2)=3512≈2.92.

Dosraniad esbonyddol

[golygu | golygu cod]

Mae dosraniad esbonyddol gyda pharamedr λ yn ddosraniad parhaus, a rhoddir ei ffwythiant dwysedd tebygolrwydd gan

f(x)=λe−λx

ar y cyfwng Ω = [0, ∞).[2] Gellir dangos ei gymedr yw

E⁡[X]=∫0∞λxe−λxdx=1λ.

Gan ddefnyddio integreiddio fesul rhan, a defnyddio'r gwerth disgwyliedig a gyfrifwyd eisoes, mae gennym:

Var⁡(X)=∫0∞(x−1λ)2λe−λxdx=λ∫0∞x2e−λxdx−2∫0∞xe−λxdx+1λ∫0∞e−λxdx=λ2λ3−21λ2+1λ1λ=1λ2

Diffiniad Ystadegaeth

[golygu | golygu cod]

Yn nodweddiadol ni all arsylwadau yn y byd go iawn fod setiau cyflawn o'r holl arsylwadau posibl y gellid eu gwneud, na fydd amleddau'r arsylwadau yn cynrychioli'r tebygolrwyddau yn fanwl cywir. Felly, yn gyffredinol ni fydd yr amrywiant a gyfrifir o'r set gyfyngedig yn cyfateb i'r amrywiant a fyddai wedi'i gyfrifo o'r boblogaeth lawn o arsylwadau posibl. Mae hyn yn golygu bod rhaid yn amcangyfrif y cymedr a'r amrywiant a fyddai wedi cael ei gyfrif o set gyflawn o arsylwadau trwy ddefnyddio hafaliad amcangyfrif. Gelwir hwn yr amrywiant sampl.

Rydym yn cymryd sampl o n gwerth Y1, ..., Yn o'r boblogaeth, ac amcangyfrif yr amrywiant ar sail y sampl hon.[3] Mae cymryd amrywiant y data sampl yn uniongyrchol yn rhoi:

σY2=1n∑i=1n(Yi−Y‾)2.

Fan hyn mae Y‾ yn dynodi cymedr y sampl:

Y‾=1n∑i=1nYi.

Oherwydd dewiswyd Yi ar hap, mae Y‾ ac σY2 yn hapnewidynnau. Gallwn gyfrifo'u gwerthoedd disgwyliedig gan:

E⁡[σY2]=E⁡[1n∑i=1n(Yi−1n∑j=1nYj)2]=1n∑i=1nE⁡[Yi2−2nYi∑j=1nYj+1n2∑j=1nYj∑k=1nYk]=1n∑i=1n[n−2nE⁡[Yi2]−2n∑j≠iE⁡[YiYj]+1n2∑j=1n∑k≠jnE⁡[YjYk]+1n2∑j=1nE⁡[Yj2]]=1n∑i=1n[n−2n(σ2+μ2)−2n(n−1)μ2+1n2n(n−1)μ2+1n(σ2+μ2)]=n−1nσ2.

Felly mae σY2 yn rhoi amcangyfrif o'r amrywiant poblogaeth sydd â bias ffactor o n−1n. Felly fe elwir σY2 yr amrywiant sampl bias. Mae cywiro ar gyfer y bias hwn yn rhoi'r amrywiant sampl diduedd, a ddynodir gan s2:

s2=nn−1σY2=nn−1(1n∑i=1n(Yi−Y‾)2)=1n−1∑i=1n(Yi−Y‾)2.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Wackerly, Dennis D., 1945- (2008). Mathematical statistics with applications. Mendenhall, William., Scheaffer, Richard L. (arg. Seventh edition). Belmont, CA: Thomson Brooks/Cole. ISBN 978-0-495-11081-1. OCLC 183886598.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  2. ↑ Stewart, William J., 1946- (2009). Probability, Markov chains, queues, and simulation : the mathematical basis of performance modeling. Princeton, N.J.: Princeton University Press. ISBN 1-4008-3281-0. OCLC 756484370.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. ↑ Montgomery, D. C. and Runger, G. C. (1994) Applied statistics and probability for engineers, page 201. John Wiley & Sons New York